Fe ddarllen y Gweinidog un neu fwy o’r adnodau hyn:
Fe godaf ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, ‘Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw yn fab iti.’
Luc 15.18-19
Garedigion yng Nghrist, yr ydym ym mhresenoldeb y Duw byw a holl gwmpeini nef, i offrymu iddo, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ein haddoliad a’n mawl a’n diolch; i gynyddu mewn gwir wybodaeth o’i gariad mawr tuag atom, ac i’w ras gael dwyn ffrwyth yn ein bywydau. Yr ydym wedi dod i wrando a derbyn sanctaidd Air Duw, i geisio grymusol nerth yr Ysbryd Glân, ac i weddïo drosom ein hunain a thros bawb, fel y derbyniwn y pethau hynny sydd raid i ni wrthynt er ein lles a’n daioni. Ond yn gyntaf cyffeswn ein pechodau, a cheisio gan ein Tad ei faddeuant a’i dangnefedd:
PENLINIO
Cyffeswn i Dduw Hollalluog, y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân, i ni bechu ar feddwl, gair, a gweithred. Gadawsom heb eu gwneud y pethau y dylasem eu gwneud; a gwnaethom y pethau na ddylasem eu gwneud. Gan hynny, gweddïwn ar i Dduw drugarhau wrthym. Trugarhaed yr Hollalluog Dduw wrthym, a maddau i ni ein holl bechodau; gwareded ni oddi wrth bob drwg, a’n cadarnhau a’n nerthu ym mhob daioni, a’n dwyn i fywyd tragwyddol. Amen.
Y Gweinidog (os yn Offeiriad) a ddywed:
Yr Hollalluog Dduw, sy’n maddau i bawb sydd yn wir edifeiriol, a drugarhao wrthych, maddau ichwi a’ch gwared oddi wrth eich holl bechodau, eich cadarnhau a’ch cryfhau ym mhob daioni, a’ch cadw yn y bywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Y GWASANAETH — SEFYLL
Arglwydd, agor ein gwefusau;
A’n genau a fynega dy foliant.
Duw, brysia i’n cynorthwyo;
Arglwydd, prysura i’n cymorth.
SEFYLL
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab: ac i’r Ysbryd Glân;
Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Molwch yr Arglwydd;
Moliannus fyddo Enw’r Arglwydd.
Venite, exultemus Domino
Deuwch canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yng Nghraig ein hiachawdwriaeth. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr: a Brenin mawr ar yr holl dduwiau. Oblegid yn ei law ef y mae gorddyfnderoedd y ddaear: ac efe biau uchelder y mynyddoedd. Y môr sydd eiddo, canys efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniodd y sychdir. Deuwch, addolwn a syrthiwn i lawr: a gostyngwn gerbron yr Arglwydd ein gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni, a ninnau ei bobl ef a defaid ei borfa: heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd cewch brofi ei nerth. Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab: ac i’r Ysbryd Glân; megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Psalm 144
1Blessed be the LORD, my rock, who trains my hands for war, and my fingers for battle;
2he is my steadfast love and my fortress, my stronghold and my deliverer, my shield and he in whom I take refuge, who subdues peoples under me.
3O LORD, what is man that you regard him, or the son of man that you think of him?
4Man is like a breath; his days are like a passing shadow.
5Bow your heavens, O LORD, and come down! Touch the mountains so that they smoke!
6Flash forth the lightning and scatter them; send out your arrows and rout them!
7Stretch out your hand from on high; rescue me and deliver me from the many waters, from the hand of foreigners,
8whose mouths speak lies and whose right hand is a right hand of falsehood.
9I will sing a new song to you, O God; upon a ten-stringed harp I will play to you,
10who gives victory to kings, who rescues David his servant from the cruel sword.
11Rescue me and deliver me from the hand of foreigners, whose mouths speak lies and whose right hand is a right hand of falsehood.
12May our sons in their youth be like plants full grown, our daughters like corner pillars cut for the structure of a palace;
13may our granaries be full, providing all kinds of produce; may our sheep bring forth thousands and ten thousands in our fields;
14may our cattle be heavy with young, suffering no mishap or failure in bearing; may there be no cry of distress in our streets!
15Blessed are the people to whom such blessings fall! Blessed are the people whose God is the LORD!
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab: ac i’r Ysbryd Glân;
Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Darllenir y llith gyntaf o’r Hen Destament neu’r Apocryffa.
2 Chronicles 15
Cyhoedda’r darllenydd y llyfr, y bennod, a’r adnod. Ar ddiwedd pob llith fe ddywed: Yma y terfyn y llith gyntaf (neu’r ail lith).
1The Spirit of God came upon Azariah the son of Oded,
2and he went out to meet Asa and said to him, “Hear me, Asa, and all Judah and Benjamin: The LORD is with you while you are with him. If you seek him, he will be found by you, but if you forsake him, he will forsake you.
3For a long time Israel was without the true God, and without a teaching priest and without law,
4but when in their distress they turned to the LORD, the God of Israel, and sought him, he was found by them.
5In those times there was no peace to him who went out or to him who came in, for great disturbances afflicted all the inhabitants of the lands.
6They were broken in pieces. Nation was crushed by nation and city by city, for God troubled them with every sort of distress.
7But you, take courage! Do not let your hands be weak, for your work shall be rewarded.”
8As soon as Asa heard these words, the prophecy of Azariah the son of Oded, he took courage and put away the detestable idols from all the land of Judah and Benjamin and from the cities that he had taken in the hill country of Ephraim, and he repaired the altar of the LORD that was in front of the vestibule of the house of the LORD.
9And he gathered all Judah and Benjamin, and those from Ephraim, Manasseh, and Simeon who were residing with them, for great numbers had deserted to him from Israel when they saw that the LORD his God was with him.
10They were gathered at Jerusalem in the third month of the fifteenth year of the reign of Asa.
11They sacrificed to the LORD on that day from the spoil that they had brought 700 oxen and 7,000 sheep.
12And they entered into a covenant to seek the LORD, the God of their fathers, with all their heart and with all their soul,
13but that whoever would not seek the LORD, the God of Israel, should be put to death, whether young or old, man or woman.
14They swore an oath to the LORD with a loud voice and with shouting and with trumpets and with horns.
15And all Judah rejoiced over the oath, for they had sworn with all their heart and had sought him with their whole desire, and he was found by them, and the LORD gave them rest all around.
16Even Maacah, his mother, King Asa removed from being queen mother because she had made a detestable image for Asherah. Asa cut down her image, crushed it, and burned it at the brook Kidron.
17But the high places were not taken out of Israel. Nevertheless, the heart of Asa was wholly true all his days.
18And he brought into the house of God the sacred gifts of his father and his own sacred gifts, silver, and gold, and vessels.
19And there was no more war until the thirty-fifth year of the reign of Asa.
Benedictus Dominus Deus Israel
Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd ac a brynodd ei bobl; Ac a ddyrchafodd iachawdwriaeth nerthol i ni: yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr. Megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi: y rhai oedd o ddechreuad y byd; Yr anfonai ef i ni ymwared rhag ein gelynion: ac oddi wrth ddwylo pawb sy’n ein casáu; Y gwnai efe drugaredd â’n tadau: ac y cofiai ei sanctaidd gyfamod; Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham; Sef bod iddo ganiatáu i ni, wedi ein hymwared oddi wrth ddwylo ein gelynion, allu ei wasanaethu ef yn ddi-ofn; Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef: holl ddyddiau ein bywyd. A thithau, Fab, a elwir yn Broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef; Ac i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl ef: trwy faddeuant o’u pechodau; Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw: trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder; I roddi llewyrch i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau: ac i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab: ac i’r Ysbryd Glân; megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Darllenir yr ail lith o’r Testament Newydd.
Ephesians 2:11-end
Cyhoedda’r darllenydd y llyfr, y bennod, a’r adnod. Ar ddiwedd pob llith fe ddywed: Yma y terfyn y llith gyntaf (neu’r ail lith).
11Therefore remember that at one time you Gentiles in the flesh, called “the uncircumcision” by what is called the circumcision, which is made in the flesh by hands —
12remember that you were at that time separated from Christ, alienated from the commonwealth of Israel and strangers to the covenants of promise, having no hope and without God in the world.
13But now in Christ Jesus you who once were far off have been brought near by the blood of Christ.
14For he himself is our peace, who has made us both one and has broken down in his flesh the dividing wall of hostility
15by abolishing the law of commandments expressed in ordinances, that he might create in himself one new man in place of the two, so making peace,
16and might reconcile us both to God in one body through the cross, thereby killing the hostility.
17And he came and preached peace to you who were far off and peace to those who were near.
18For through him we both have access in one Spirit to the Father.
19So then you are no longer strangers and aliens, but you are fellow citizens with the saints and members of the household of God,
20built on the foundation of the apostles and prophets, Christ Jesus himself being the cornerstone,
21in whom the whole structure, being joined together, grows into a holy temple in the Lord.
22In him you also are being built together into a dwelling place for God by the Spirit.
Te Deum laudamus
Ti, Dduw, a folwn: ti a gydnabyddwn yn Arglwydd. Yr holl ddaear a’th fawl di: y Tad tragwyddol. Amat ti y llefa’r holl angylion: y nefoedd a’r holl nerthoedd o’u mewn. Arnat ti y llefa cerubiaid a seraffiaid â lleferydd di-baid: Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd, Arglwydd Dduw y lluoedd; nefoedd a daear sydd yn llawn o’th ogoniant. Gogoneddus gôr yr apostolion a’th fawl di: moliannus nifer y proffwydi a’th fawl di. Ardderchog lu y merthyron a’th fawl di: yr Eglwys Lân drwy’r holl fyd a’th addef di, y Tad o anfeidrol fawredd; dy anrhydeddus, wir, ac unig Fab; hefyd yr Ysbryd Glân, y Diddanydd. Ti, Grist, yw Brenin y gogoniant: ti yw tragwyddol Fab y Tad. Pan gymeraist arnat waredu dyn: ni ddiystyraist fru y Wyryf. Pan orchfygaist holl nerth angau: agoraist deyrnas nef i bawb sy’n credu. Ti sydd yn eistedd ar ddeheulaw Duw: yng ngogoniant y Tad. Yr ŷm yn credu mai tydi a ddaw yn Farnwr arnom. Gan hynny atolygwn i ti gynorthwyo dy weision: a brynaist â’th werthfawr waed. Pâr iddynt gael eu cyfrif gyda’th saint: yn y gogoniant tragwyddol.
CREDO’R APOSTOLION — SEFYLL
Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoethog, creawdwr nef a daear; ac yn Iesu Grist ei unig Fab ef, ein Harglwydd ni, yr hwn a gaed trwy’r Ysbryd Glân, a aned o Fair Forwyn, a ddioddefodd dan Pontius Pilat, a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd. Disgynnodd i uffern. Y trydydd dydd y cyfododd o feirw, a esgynnodd i’r nefoedd, ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad Hollgyfoethog; oddi yno y daw i farnu’r byw a’r meirw. Credaf yn yr Ysbryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; cymun y saint; maddeuant pechodau; atgyfodiad y corff; a’r bywyd tragwyddol. Amen.
PENLINIO. Gweddïwn.
Yr Arglwydd a fo gyda chwi;
A chyda’th ysbryd dithau.
Gweddïwn.
Arglwydd, trugarha wrthym. Crist, trugarha wrthym. Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys; megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Y Gwersiglau a’r Atebion
Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom;
A chaniatâ i ni dy iachawdwriaeth.
Gwisg dy weinidogion ag iawnder;
A gwna dy ddewis bobl yn llawen.
Arglwydd, cadw dy bobl;
A bendithia dy etifeddiaeth.
Arglwydd, cadw’r Frenhines;
A rho i’w chynghorwyr ddoethineb.
Arglwydd, dyro dangnefedd yn ein dyddiau;
Ac amddiffyn ni byth yn nerthol.
Duw, glanha ein calonnau;
Ac adnewydda ysbryd uniawn o’n mewn.
Colect y Dydd
Dydd Mercher ar ôl 18fed Sul ar ôl y Drindod
O Dduw, sy’n amlygu dy allu anfeidrol yn bennaf trwy ddangos trugaredd a thosturi: dyro inni’n drugarog y fath fesur o’th ras, fel y bo i ni, gan redeg ar hyd ffordd dy orchmynion, fwynhau dy addewidion grasol, a chyfranogi o’th drysor nefol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Ail Golect, am Heddwch
Hollalluog Dduw, awdur tangnefedd a charwr cytundeb, dy adnabod sydd yn fywyd tragwyddol, a’th wasanaeth yn wir fraint: amddiffyn ni dy weision ym mhob rhyw berygl ac adfyd, fel y gallwn, gan ymddiried yn llwyr yn dy nodded di, dy wasanaethu’n ddi-ofn; trwy nerth Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Y Trydydd Colect, am Ras
Nefol Dad, a’n cedwaist yn ddihangol hyd ddechrau’r dydd heddiw: amddiffyn ni â’th gadarn allu; a chaniatâ na syrthiwn y dydd hwn i unrhyw bechod, na rhedeg i unrhyw berygl, ond bod ein holl weithredoedd wedi eu llywio wrth dy lywodraeth, i wneud yn wastad yr hyn sy’n gyfiawn yn dy olwg di; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Y Gras
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.